Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Sector Gweithgareddau Awyr Agored |
Dyddiad y cyfarfod: |
10 Tachwedd 2022 |
Lleoliad: |
Drwy Zoom |
Enw: |
Teitl: |
Huw Irranca-Davies AS (HI-D) |
Cadeirydd - Aelod o'r Senedd |
Sam Rowlands AS (SR) |
Is-gadeirydd - Aelod o'r Senedd |
Sûan John (SJ) |
Arsyllydd - Swyddfa Cefin Campbell (Is-gadeirydd) |
Paul Donovan (PD) |
Ysgrifenyddiaeth - Cynrychiolydd Cynghrair Awyr Agored Cymru a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Graham French (GF) |
Aelod - Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored a Chynrychiolydd Cyngor Dysgu Awyr Agored Cymru |
Gethin Thomas (GT) |
Aelod - Pwyllgor Cymwysterau Cymdeithas Ogofa Prydain |
Paul Airey (PA) |
Aelod - Cynrychiolydd y Bartneriaeth Awyr Agored |
Paul Frost (PF) |
Aelod - Cynrychiolydd y Bartneriaeth Awyr Agored |
Tracey Evans (TE) |
Aelod - Cynrychiolydd y Bartneriaeth Awyr Agored |
Mark Jones (MJ) |
Aelod - Cynrychiolydd y Bartneriaeth Awyr Agored |
Gwenda Owen (GO) |
Aelod - Cycling UK |
Andy Taylor (AT) |
Aelod - Cynrychiolydd Pwyllgor Cynghorol y Diwydiant Gweithgareddau Antur |
Steven Morgan (SM) |
Aelod - Plas Menai |
Helen Donnan (HD) |
Aelod - Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Kathryn Stewart (KS) |
Aelod - Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Jethro Moore (JM) |
Aelod – Adventure Beyond a Siartr Arforgampau Cenedlaetholl |
Phil Stone (PS) |
Aelod - Canŵio Cymru |
Enw: |
Teitl: |
Rebecca Brough |
Aelod – Y Cerddwyr |
Steve Rayner |
Aelod - Cynrychiolydd Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru |
Kate Ashbrook |
Aelod – Y Gymdeithas Mannau Agored |
Peredur Owen Griffiths AS |
Aelod o'r Senedd |
Delyth Jewell AS |
Aelod o'r Senedd |
Llyr Gruffydd AS |
Aelod o'r Senedd |
Cefin Campbell AS |
Aelod o'r Senedd |
Agenda, nodiadau a chamau gweithredu
1. Croeso, cyflwyniadau, ac ymddiheuriadau
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a chroesawyd pawb oedd yn bresennol i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 y GTB ar gyfer y Sector Gweithgareddau Awyr Agored.
Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law, fel yr uchod.
Diolchodd y Cadeirydd i holl aelodau'r GTB am eu hymrwymiad i'r trafodaethau yn ystod y 12 mis diwethaf, gan nodi a diolch am bresenoldeb a chyfraniad Gweinidogion.
Nododd y Cadeirydd ei gefnogaeth barhaus i'r GTB, ond oherwydd capasiti ac ymrwymiadau eraill dywedodd y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel Cadeirydd ond ei fod yn hapus iawn i barhau yn rhan o'r grŵp.
2. Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd, Is-gadeirydd(ion) a’r Ysgrifenyddiaeth
Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i’r Ysgrifenyddiaeth a alwodd am enwebiadau ar gyfer rôl y Cadeirydd gan Aelodau o'r Senedd (ASau) oedd yn y cyfarfod. Enwebodd HI-D SR; eiliodd CC yr enwebiad (drwy ddirprwy mewn gohebiaeth e-bost). Derbyniodd SR y rôl a throsglwyddodd PD yn ôl i’r Cadeirydd newydd.
Galwodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer rôl yr Is-gadeirydd. Enwebodd SR HI-D a CC; eiliodd CC a Hi-D ei gilydd yn y drefn honno. Derbyniodd CC a HI-D rôlau yr Is-gadeirydd.
Cynigiodd PD ei barodrwydd i barhau yn rôl yr Ysgrifenyddiaeth gyda chefnogaeth Rebecca Brough. Cefnogwyd hyn gan bawb oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
3. Crynodeb o weithgaredd y flwyddyn
Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth y crynodeb a ganlyn o weithgarwch y flwyddyn:
Cyfarfod #1 15.07.2021
i. Penodi swyddi: Cadeirydd - Huw Irranca-Davies AS; Is-gadeiryddion - Sam Rowlands AS a Cefin Campbell AS; Ysgrifenyddiaeth - Paul Donovan
ii. Enw y cytunwyd arno: GTB ar gyfer y Sector Gweithgareddau Awyr Agored
iii. Diben y cytunwyd arno: 1. Llywio a dylanwadu ar bolisiau'r dyfodol; 2. Dyrchafu statws y sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru a chefnogi twf cynaliadwy’r sector; 3. Cefnogi’r gwaith o hyrwyddo mynediad teg i'r amgylchedd naturiol ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
iv.Trafodwyd syniadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
Pwyntiau gweithredu
PG1: Nodi pynciau y cyfarfodydd cychwynnol ar gyfer y cyfarfod nesaf a thu hwnt. Y Cadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth i drafod.
PG2: Drafftio llythyr at Weinidogion i dynnu sylw at sefydlu’r grŵp a'i barodrwydd i ymgysylltu â’r Llywodraeth a’i chefnogi. Y Cadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth i drafod.
Cyfarfod #2 13.12.2021
Cyflwyniad ar Beth a phwy yw'r Sector Awyr Agored ac yna trafodaeth anffurfiol
Daeth Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i’r cyfarfod.
Pwyntiau gweithredu
PG1: Llythyr i'w anfon at aelodau ar draws Cabinet y Llywodraeth a Phrif Weinidog Cymru, gan godi pwyntiau allweddol – yr heriau, y cyfleoedd a’r atebion i'r materion dan sylw a nodi ein bod yn awyddus i weithio gyda LlC a’i helpu. Yr Ysgrifenyddiaeth i ddechrau'r broses hon, gan ddefnyddio Maniffesto 2021 y Gynghrair Awyr Agored fel man cychwyn i nodi'r pwyntiau allweddol. Pawb i gyfrannu wedi hynny.
PG2: Dadl meinciau cefn yn y gwanwyn i godi proffil y sector a rhai o'r pwyntiau a godwyd heddiw. Pawb i ystyried yr agweddau allweddol sydd angen eu cynnwys yn y ddadl ac estyn allan i'r ASau priodol (bydd cynnwys y llythyr a nodwyd ym mhwynt gweithredu 1. o gymorth gyda hyn). Y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i nodi amser cyfleus i hyn ddigwydd ac felly gwneud iddo ddigwydd.
PG3: Diweddaru ymchwil ar werth economaidd a chymdeithasol i’r sector awyr agored yng Nghymru ac ystyried diweddaru'r ymchwil sy'n ymwneud â gwerth economaidd y rhwydweithiau hawliau tramwy ledled Cymru. Yr Ysgrifenyddiaeth i goladu unrhyw ymchwil sy'n bodoli eisoes fel man cychwyn. Pawb i gyfrannu.
Cyfarfod #3 12.07.2022
Cyflwyniad ar Pam fod angen mynediad teg i'r awyr agored ac yna trafodaeth anffurfiol
Daeth Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd i’r cyfarfod.
Pwyntiau gweithredu
PG1: Llythyr i'w ddrafftio gan y Cadeirydd i gyflwyno cynigion ffurfiol ar gynllun peilot tir cyhoeddus i'r Gweinidog.
PG2:Ychwanegu ystyriaeth o adnoddau ariannu i archwilio’r hyn y gellir ei wneud yn awr a chytuno ar ffordd ymlaen at agenda’r cyfarfod nesaf.
Cyfarfod #4 28.09.2022
Cyflwyniad ar Addysg Awyr Agored & Dysgu yng Nghymru ac yna trafodaeth anffurfiol
Daeth Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i’r cyfarfod.
Pwyntiau gweithredu
PG1. Ymarfer mapio o ran adnoddau i'w ystyried gyda Phanel y Cynghorwyr Addysg Awyr Agored – Yr Ysgrifenyddiaeth i ddechrau sgyrsiau gyda sefydliadau addysg awyr agored allweddol ac adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y GTB.
PG2: Ymchwilio ymhellach i awgrym y Gweinidog o sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol gyda ffocws ar Ddysgu yn yr Awyr Agored – Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud cais i’r Gweinidog ymweld â Storey Arms yn y flwyddyn newydd gyda'r bwriad o ddilyn i fyny ar awgrym y Gweinidogion a hefyd ei ystyriaethau eraill.
PG3: Trefnu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y trefniadau angenrheidiol cyn gynted ag y bo modd, gan sicrhau bod y Cadeirydd a'r Is-Gadeiryddion ar gael.
5. Syniadau ar gyfer pynciau trafod cyfarfodydd y dyfodol
Estynnodd y Cadeirydd y cais hwn i'r Ysgrifenyddiaeth i ddechrau gan ofyn am awgrymiadau cychwynnol cyn ei ymestyn i'r aelodau oedd yn bresennol.
Nododd yr Ysgrifenyddiaeth fod gwahoddiadau cychwynnol ac anffurfiol wedi'u rhoi i Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, i ymuno â chyfarfod nesaf y GTB yn gynnar yn y flwyddyn newydd, lle bydd y ffocws ar Ddiogelwch yn yr Awyr Agored, gan ystyried y canlynol: adolygiad parhaus yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) a'r dewis amgen arfaethedig a arweinir gan y sector i AALA, pe bai’r ddeddf yn cael ei diddymu yn San Steffan; diogelwch pobl Cymru a'r rheini sy'n ymweld â Chymru wrth fentro yn yr awyr agored. Cytunwyd y byddai’r GTB yn cysylltu’n ffurfiol â’r Dirprwy Weinidog, gyda chefnogaeth HI-D, i ddod i gyfarfod estynedig wyneb yn wyneb yn gynnar yn 2023 ym Mhlas Menai, fyddai’n cynnwys dau gyflwyniad, gyda thrafodaethau ar ôl pob un ohonynt, a chyda'r cyfle (os fydd y tywydd ac amser y flwyddyn yn caniatáu) i gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored (diolch i Blas Menai am gynnig y lleoliad a'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau).
Mae'r canlynol yn drosolwg o'r awgrymiadau a wnaed yn ystod y cyfarfod:
i. Mynediad - dilyniant i'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022, gan gynnwys cynrychiolwyr o CLlLC o bosib;
ii. Mynediad at ddŵr - tra'n ymwneud â'r uchod, teimlwyd y byddai’n deilwng cynnal trafodaeth benodol yn ymwneud â mynediad at ddŵr;
iii. Rhagnodi Cymdeithasol - gyda'r posibilrwydd o wahodd y Gweinidog Iechyd i ymuno â ni;
iv. Twristiaeth Awyr Agored ac Antur - defnyddio sefyllfa Covid fel sbardun i ystyried yr effaith ar gymunedau ac ati - addysg ynghylch sut i ddefnyddio'r amgylchedd naturiol yn gynaliadwy;
v. Ystyried gwahodd unigolion allweddol eraill i fynychu a chyflwyno mewn cyfarfodydd, y rhai sydd mewn swyddi o ddylanwad
Cafodd pob awgrym groeso brwd gan bawb.
Mae'r canlynol yn bynciau a amlygwyd yn ystod cyfarfod cyntaf y GTB sydd eto i'w trafod:
vi. Cryfderau bod yn yr awyr agored a sut i ymgysylltu â natur;
vii. Gwneud defnydd o'r awyr agored ar gyfer buddion iechyd a llesiant;
viii. Datblygu’r gweithlu a datblygu llwybrau at gyflogaeth - prentisiaethau.
6. Crynodeb o’r camau i’w cymryd
PG1. Gwahodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog chwaraeon, yn ffurfiol i ymuno â'r GTB am gyfarfod wyneb yn wyneb ym Mhlas Menai, yn gynnar yn 2023. HI-D (yr Is-gadeirydd) i roi’r gwahoddiad ffurfiol hwn ar ran y GTB. Yr Ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Phlas Menai a gwahodd holl aelodau'r GTB unwaith y bydd dyddiad wedi'i gadarnhau.
PG2. Y Cadeirydd a’r Ysgrifenyddiaeth i drafod o ran cynlluniau ar gyfer y 12 mis nesaf.